Starting March 2025, Plas Uchaf Farm is thrilled to welcome guests to our new shepherd hut self-catering accommodation! Nestled amidst the breathtaking landscape of rural North Wales, our charming shepherd huts offer a peaceful retreat where you can immerse yourself in the beauty of nature and the rich heritage of a traditional Welsh hill farm.
​
Each hut is thoughtfully designed for comfort and authenticity, giving you access to the farm’s historic 17th-century walled garden, orchard, tranquil farm pond, and enchanting woodlands. You’ll also be staying in close proximity to Mynydd Y Gaer, an ancient hillfort steeped in history and St Nefydd and St Mary's Church - burial place of Catrin Berain ‘Mother of Wales’. Whether you're seeking a relaxing escape or a base to explore the rugged beauty of North Wales, Plas Uchaf promises a unique and unforgettable experience.
​
This exciting project has been made possible with the support of the Clocaenog Forest Wind Business Farm Fund and RWE. Their generous funding is helping us diversify and preserve the farm’s historic features while creating opportunities to share Welsh culture and heritage with a wider audience.
​
We are proud to acknowledge the support of @ClocaenogCF @RWE_UK and @conwyvol (CVSC) in this endeavor. Head to their websites for more information and keep an eye on their social media channels for updates.
​
Get ready to experience the charm of Plas Uchaf – where heritage and hospitality meet. Bookings will open soon, so stay tuned for more details!
​
A press release is available upon request.
Gan ddechrau ym Mawrth 2025, byddwn yn falch o groesawu gwesteion i’n cytiau bugail, sef llety hunanarlwyo newydd ar Fferm Plas Uchaf! Mae ein cytiau bugail swynol wedi’u lloeli yng nghanol tirwedd syfrdanol cefn gwlad Gogledd Cymru, gan gynnig encil heddychlon lle gallwch ymgolli yn harddwch natur a threftadaeth gyfoethog fferm fynydd draddodiadol Gymreig.
​
Mae pob cwt wedi’i gynllunio’n feddylgar er mwyn sicrhau cysur a dilysrwydd, gan roi mynediad i ardd furiog hanesyddol y fferm o’r 17eg ganrif, y berllan, pwll llonydd y fferm a choetiroedd hudolus. Byddwch hefyd yn aros yn agos at Fynydd y Gaer, sef bryngaer hynafol llawn hanes ac Eglwys Nefydd Sant a’r Santes Fair, lle claddwyd Catrin o Ferain a elwid yn ‘Mam Cymru’. P’un a ydych yn chwilio am ddihangfa hamddenol neu leoliad i archwilio harddwch garw Gogledd Cymru, cewch brofiad unigryw a bythgofiadwy ym Mhlas Uchaf. Gwireddwyd y prosiect cyffrous hwn gyda chymorth Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog ac RWE. Mae eu cyllid hael yn ein helpu i arallgyfeirio a chadw nodweddion hanesyddol y fferm, tra’n creu cyfleoedd i rannu diwylliant a threftadaeth Cymru gyda chynulleidfa ehangach.
​
Rydym yn falch o gydnabod cefnogaeth @ClocaenogCF (Cronfa Coedwig Clocaenog), @RWE_UK a @conwyvol (Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy) yn yr ymdrech hon. Gallwch gyrchu eu gwefannau am ragor o wybodaeth a chadw llygad ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
​
Byddwch yn barod i brofi swyn Plas Uchaf – lle mae treftadaeth a lletygarwch yn cwrdd. Bydd archebion ar gael yn fuan, felly cadwch olwg am fwy o fanylion!
​
Mae datganiad i'r wasg ar gael ar gais.